.MTQ1.MzQwMzI

From Newberry Transcribe
Revision as of 17:50, 27 September 2020 by imported>Robert Roth
(diff) ← Older revision | Latest revision (diff) | Newer revision → (diff)
Jump to navigation Jump to search

Tylch-Lythyr. Remsen, N. Y., TACH. 17, 1857. ANWYL GYFAILL, — Yr ydym yn anturio danfon y Cylch-Lythyr hwn atoch i ddeisyf cymhorth yn achos derbyniad a lledaeniad y

 CENHADWR AMERICANAIDD,

amt y fl. 1858. Ni buom erioed eto yn teimlo cymaint o bryder yn nghyleh gweithrediadan y flwyddyn ddyfodol ag ydym yleni, a hyny o herwydd fod y dyryswch arianol wedi effeilthio cymaint ar yr holl wlad, a chynifer o'n derbynwyr yn dyoddef, fel mae yn debygol, oddiwrth y caledi a'r dyryswch hwn.

   Nis gwyddom pa beth yn briodol i'w ddweyd.  Ond buasai yn dda genym allu llwyddo i berswadio pob un sydd yn ei dderbyn yn awr i beidio ei roi i fyny y flwyddyn nesaf eto. Y mae gobaith y daw gwellhad ar bethau cyn bo hir, ac y mae graddau o wellhad yn bod eisoes ar ryw ystyriaethau ac mewn manau,—ac yr ydym ninau yn addaw aros wrth ein derbynwyr am y taliadau am 1858 hyd ryw bryd yn nghorff y flwyddyn ag y byddo yn gyfleus iddynt. Gobeithiwn y gwneir ymdrech i dalu yn fuan yr hyn sydd ddyledus am 1857, am ein bod mewn gwir angen. 
  Byddwn ddiolchgar iawn i chwi, anwyl gyfaill, am eich cymhorth a'ch cydweithrediad mewn ymdrechiadau i gadw rhestr y derbynwyr presenol heb leihau. Hefyd, gan y dichon i rai mewn manau dynu yn ol, gwnewch ymdrech, os gellir, i gael rhai derbynwyr newyddion. Ni chaiff dim fod yn ol o'n to ninau, i'w wneyd yn deilwng o dderbyniad a chymeradwyaeth ein cenedl. Parheir i'w gyhoeddi yn yr un plygiad, a'r un pris ag yn bresenol, sef $1,50 y flwyddyn, a pharhawn i ymdrechu ei lanw a phethau da. Ydym yr eiddoch yn serchus yn ngwasanaeth ein cenedl, 

ROBERT EVERETT.